#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-823

Teitl y ddeiseb: A487 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau.

Testun y ddeiseb:

Rydym ni, fel trigolion ac ymwelwyr Penparcau, yn deisebu Pwyllgor Priffyrdd Cyngor Ceredigion i ostwng cyflymder y traffig ffordd, o 30mya i 20mya, ar yr A487 rhwng y groesfan belican ar Ffordd Penparcau a'r groesfan sebra ar First Avenue, a hynny er mwyn lleihau'r perygl o anaf a marwolaeth i gerddwyr ar y darn peryglus hwn o ffordd.

Y cefndir

Mae cefnffordd yr A487 yn rhan o'r rhwydwaith o gefnffyrdd gogledd-de sy'n cysylltu Abergwaun yn Sir Benfro â gogledd Cymru. Mae map o rwydwaith cefnffyrdd Cymru ar gael yma.

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys yr A487.  Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy'n gyfrifol am gynnal a chadw a gweithredu'r A487 i'r gogledd o Aberteifi.  Llywodraeth Cymru, fel awdurdod priffyrdd, sy'n gyfrifol am ddiogelwch y rhwydwaith cefnffyrdd, ac am osod terfynau cyflymder.

Mae dau ddull o gyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya: terfynau cyflymder 20mya y gwneir cais amdanynt gan y deisebwyr; a pharthau 20mya. Mae Gwefan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yn disgrifio parthau 20mya fel a ganlyn:

20mph zones, are designed to be "self-enforcing" due to traffic calming measures which are introduced along with the change in the speed limit. Speed humps, chicanes, road narrowing, planting and other measures are typically used to both physically and visually reinforce the shared nature of the road.

Mae RoSPA yn disgrifio terfynau 20mya fel a ganlyn:

20mph limits, which consist of just a speed limit change but no physical measures to reduce vehicle speeds within the areas. Drivers are alerted to the speed limit with 20mph speed limit repeater signs.

20mph limits are most appropriate for roads where average speeds are already low, and the guidance suggests below 24mph. The layout and use of the road must also give the clear impression that a 20mph speed or below is the most appropriate.

Mae RoSPA hefyd wedi cyhoeddi taflen ffeithiau (PDF 529KB) am derfynau cyflymder a pharthau 20mya, sy'n trafod hanes, nodweddion ac effeithiolrwydd yr ymyriadau.

Mae sefydliad ymgyrchu cenedlaethol, 20's Plenty for Us, a sefydlwyd yn 2007 i helpu cymunedau sydd am gael amgylchedd stryd haws i fyw ynddi lle maen nhw'n byw, trwy osod terfyn cyflymder gorfodol o 20mph ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd.  Mae'n darparu map o grwpiau ymgyrchu lleol, gan gynnwys nifer yng Nghymru - er nad oes un yn yr ardal y cyfeiria'r ddeiseb ati.

Polisi Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru yn 2009.  Mae'r canllawiau hyn i'w defnyddio wrth bennu "yr holl gyfyngiadau cyflymder lleol ar gefnffyrdd a ffyrdd sirol".  Mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar gefnffyrdd, dywed y canllawiau (paragraff 5.7):

Gellir defnyddio terfynau cyflymder 20mya ar gefnffyrdd o dan amgylchiadau eithriadol, yn gyffredinol dros hydoedd byr ac am gyfnodau cyfyngedig yn ystod y dydd.

Aiff y canllawiau ymlaen (paragraffau 5.8 i 5.11):

Er mwyn bod yn llwyddiannus, yn ddelfrydol dylai terfynau cyflymder a pharthau 20mya fod yn hunanorfodol. Dylai awdurdodau priffyrdd ystyried lefel y gweithgaredd gorfodi sydd ei angen gan yr heddlu cyn rhoi unrhwy un o'r mesurau hyn ar waith a rhaid iddynt bob amser yngynghori â'r heddlu wrth ystyried eu defnyddio.

Os bydd awdurdodau priffyrdd yn cyflwyno terfynau cyflymder 20mya am ran o'r dydd (e.e. yn seiliedig ar oriau ysgol), dylid sicrhau bod yr arwyddion yn glir ac yn ddiamwys i yrwyr.

Dim ond ar gyfer ffyrdd unigol neu ar gyfer rhwydwaith bach o ffyrdd y dylid defnyddio terfynau cyflymder 20mya. Dengys gwaith ymchwil mai dim ond lle ceir cyflymderau cerbyd cymedrig o 24 mya neu'n is neu lle y bwriedir rhoi mesurau gostebu traffig ar waith fel rhan o'r strategaeth rheoli cyflymder y dylid defnyddio terfynau cyflymder  20mya.

Profwyd bod parthau 20mya yn lleihau nifer y bobl a gaiff eu hanafu ac fe'u defnyddir fel arfer yng nghanol trefi, mewn ardaloedd preswyl ac yng nghyffiniau ysgolion. Eu diben yw creu amodau lle y bydd gyrwyr yn gyrru'n naturiol ar gyflymder o tua 20mya yn bennaf o ganlyniad i weithgaredd gan ddefnyddwyr ffordd sy'n agored i niwed.

Roedd Deddf Cymru 2017 wedi rhoi ystod o bwerau gweithredol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â therfynau cyflymder, a rhoi cymhwysedd i'r Cynulliad ddeddfu yn y maes hwn.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ystod y Cynulliad diwethaf cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o ddiogelwch ar y ffyrdd a chyflwyno adroddiad yn 2015. Mae canlyniad yr adolygiad wedi cael ei fapio a'i gyhoeddi.  Ar gyfer y rhan o’r ffordd a nodir yn y ddeiseb, mae gwefan yr adolygiad yn nodi y dylid cadw'r terfyn cyflymder 30mya presennol, ond mae "gwaith arall i wella diogelwch ar y ffyrdd" yn cael ei nodi. Mae'r cofnod yn crynhoi'r rhain fel a ganlyn:

Continue to progress proposals to potentially detrunk the A44/A487 Aberystwyth (and trunk alternative routes, where appropriate) in line with the National Transport Finance Plan 2015.

Y cynnig i is-raddio (hy ail-ddosbarthu fel ffordd leol) yr A44 / A487 Aberystwyth yw cynllun  cyfeirnod rhif R26A yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol (NTFP) 2015. Mae Diweddariad 2017 i'r cynllun yn nodi ar dudalen 7 bod y "R25 / 26 - ... y rhaglen cyflwyno a thynnu statws cefnffyrdd" wedi cael “proffil newydd” “i fod yn gyson â’r cyllid fydd ar gael dros y cyfnod o 3 blynedd".  Ni ymddengys bod y rhaglen atal / rhwystro yn cael ei rhestru yn yr atodlen gyflawni a nodir yn atodiad B i'r diweddariad.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad pellach o derfynau cyflymder ar rwydwaith cefnffyrdd Cymru.  Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi ymateb i’r Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon i ddweud:

We are currently in the process of carrying out a three year Speed Limit Review, looking at road safety issues at over 600 sites on all trunk roads in Wales. Your comments will be taken into consideration as part of this process when this section of the trunk road is reviewed.

The results of the review will be made available online and any works arising from the wider review will be prioritised, as funding allows, for a programmed completion over the next three to four years.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Er ei bod yn ymddangos nad yw'r rhan hon o'r ffordd wedi'i chodi yn y Cynulliad, codwyd y mater o derfynau a pharthau cyflymder 20mya ar sawl achlysur. 

Er enghraifft, ar 2 Mai 2018, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ynghylch cyflwyno "cyfyngiad cyflymder 20mya mewn ardaloedd trefol" yng nghyd-destun yr ymgyrch  "20s Plenty for Us".  Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflwyno parthau 20 mya a therfynau cyflymder 20 mya lle y ceir tystiolaeth fod eu hangen. Mae'r Aelod yn llygad ei le fod y dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu eu bod yn arwain at ostwng cyflymder, ac felly at ddiogelwch gwell, yn arbennig mewn perthynas â cherddwyr a beicwyr. Mae gan awdurdodau cefnffyrdd y pŵer i newid terfynau cyflymder drwy orchymyn eisoes, ac yn amlwg mae angen iddynt ymgynghori â'r gymuned leol ar wneud unrhyw newidiadau.

Ar 6 Mehefin 2018, atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gwestiwn arall gan bwysleisio mor bwysig yw cynnwys y gymuned ac ymgynghori â hi:

O dan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n gwbl hanfodol fod ymgynghori'n digwydd â thrigolion ar faterion sy'n gysylltiedig â'u diogelwch a'u lles, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys terfynau cyflymder yn eu cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r syniad o weithredu parthau 20 mya, a lle bo hynny'n briodol, o ostwng terfynau cyflymder o 30 mya i 20 mya, er enghraifft y tu allan i ysgolion

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.